Y Salmau 39:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i.

11. Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela.

12. Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.

13. Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.

Y Salmau 39