Y Salmau 38:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i'm hesgyrn, oblegid fy mhechod.

4. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

6. Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7. Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

Y Salmau 38