Y Salmau 38:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.

21. Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf.

22. Brysia i'm cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.

Y Salmau 38