Y Salmau 36:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

6. Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.

7. Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.

8. Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

9. Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.

10. Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon.

11. Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.

12. Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

Y Salmau 36