3. Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
4. Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.
5. Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
6. Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.
7. Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.
8. Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
9. Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.