Y Salmau 35:26-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.

27. Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei was.

28. Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a'th foliant ar hyd y dydd.

Y Salmau 35