Y Salmau 35:22-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O Arglwydd.

23. Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw a'm Harglwydd.

24. Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o'm plegid.

25. Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.

Y Salmau 35