Y Salmau 32:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y'th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef.

7. Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.

8. Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â'm llygad arnat y'th gynghoraf.

9. Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat.

10. Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchyna ef.

Y Salmau 32