2. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.
3. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.
4. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.
5. Addefais fy mhechod wrthyt, a'm hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.
6. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y'th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef.