9. Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a'm bol.
10. Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a'm blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a'm hesgyrn a bydrasant.
11. Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant: y rhai a'm gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.
12. Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.
13. Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.
14. Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt.
15. Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.
16. Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
17. Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i'r bedd.
18. Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.
19. Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant; ac a wnaethost i'r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion!
20. Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.
21. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
22. Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.
23. Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wna falchder.