Y Salmau 31:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a'm bol.

10. Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a'm blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a'm hesgyrn a bydrasant.

11. Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant: y rhai a'm gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.

12. Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.

13. Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.

14. Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt.

15. Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.

16. Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.

17. Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i'r bedd.

18. Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.

19. Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant; ac a wnaethost i'r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion!

20. Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.

21. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.

Y Salmau 31