20. Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.
21. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
22. Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.
23. Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wna falchder.
24. Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.