4. A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Sela.
5. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.
6. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.
7. Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ĂȘn; torraist ddannedd yr annuwiolion.