Y Salmau 3:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i'm herbyn.

2. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela.

3. Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.

Y Salmau 3