Y Salmau 29:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Moeswch i'r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

2. Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.

3. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.

4. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch.

5. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus.

6. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.

7. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân.

8. Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.

9. Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.

Y Salmau 29