1. Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf?
2. Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, i'm herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant.
3. Pe gwersyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i'm herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.
4. Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhÅ· yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml.
5. Canys yn y dydd blin y'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y'm cuddia; ar graig y'm cyfyd i.