Y Salmau 25:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.

4. Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau.

5. Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.

6. Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

Y Salmau 25