Y Salmau 24:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.

2. Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.

3. Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?

4. Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

Y Salmau 24