Y Salmau 23:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf.

2. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel.

3. Efe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

Y Salmau 23