24. Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.
25. Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a'i hofnant ef.
26. Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.
27. Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.
28. Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.