12. Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchasant.
13. Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.
14. Fel dwfr y'm tywalltwyd, a'm hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.
15. Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a'm tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y'm dygaist.
16. Canys cŵn a'm cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a'm hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a'm traed.
17. Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.
18. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.
19. Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i'm cynorthwyo.
20. Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.
21. Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y'm gwrandewaist.
22. Mynegaf dy enw i'm brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y'th folaf.
23. Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.
24. Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.
25. Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a'i hofnant ef.
26. Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.