Y Salmau 21:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!

2. Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.

3. Canys achubaist ei flaen ef รข bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

4. Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.

Y Salmau 21