6. Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.
7. Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.
8. Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
9. Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.