Y Salmau 20:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a'th ddiffynno.

2. Anfoned i ti gymorth o'r cysegr, a nerthed di o Seion.

3. Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i'th boethoffrwm. Sela.

4. Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor.

5. Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.

6. Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.

7. Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.

Y Salmau 20