Y Salmau 2:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt.

5. Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt.

6. Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd.

7. Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais.

8. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant.

9. Drylli hwynt รข gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd.

Y Salmau 2