Y Salmau 19:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.

4. Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd: i'r haul y gosododd efe babell ynddynt;

5. Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o'i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.

6. O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.

7. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.

8. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid.

9. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.

10. Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na'r mêl, ac na diferiad diliau mêl.

11. Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o'u cadw y mae gwobr lawer.

12. Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.

13. Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y'm perffeithir, ac y'm glanheir oddi wrth anwiredd lawer.

14. Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a'm prynwr.

Y Salmau 19