Y Salmau 18:46-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth.

47. Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.

48. Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a'm dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.

49. Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.

Y Salmau 18