Y Salmau 18:35-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.

36. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.

37. Erlidiais fy ngelynion, ac a'u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

38. Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.

39. Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.

40. Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.

41. Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr Arglwydd, ond nid atebodd efe hwynt.

42. Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.

43. Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.

44. Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.

45. Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o'u dirgel fannau.

46. Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth.

47. Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.

48. Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a'm dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.

49. Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.

50. Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Dafydd, ac i'w had ef byth.

Y Salmau 18