35. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.
36. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.
37. Erlidiais fy ngelynion, ac a'u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
38. Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
39. Canys gwregysaist fi รข nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.
40. Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
41. Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr Arglwydd, ond nid atebodd efe hwynt.
42. Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.