Y Salmau 18:27-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.

28. Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29. Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur.

30. Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.

31. Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?

32. Duw sydd yn fy ngwregysu รข nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.

33. Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y'm sefydla.

34. Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.

35. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.

Y Salmau 18