Y Salmau 18:21-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

22. Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.

23. Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.

24. A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.

25. A'r trugarog y gwnei drugaredd; â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

26. A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.

27. Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.

28. Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29. Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur.

30. Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.

31. Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?

32. Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.

33. Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y'm sefydla.

34. Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.

35. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a'th ddeheulaw a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.

36. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.

37. Erlidiais fy ngelynion, ac a'u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

38. Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.

Y Salmau 18