Y Salmau 18:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Caraf di, Arglwydd fy nghadernid.

2. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddiffynfa, a'm gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a'm huchel dŵr.

3. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y'm cedwir rhag fy ngelynion.

4. Gofidion angau a'm cylchynasant, ac afonydd y fall a'm dychrynasant i.

5. Gofidiau uffern a'm cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.

6. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth i'w glustiau ef.

7. Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.

8. Dyrchafodd mwg o'i ffroenau, a thân a ysodd o'i enau: glo a enynasant ganddo.

9. Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.

Y Salmau 18