Y Salmau 17:14-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i'w rhai bychain.

15. Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â'th ddelw di.

Y Salmau 17