Y Salmau 17:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.

2. Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb.

3. Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.

4. Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.

Y Salmau 17