Y Salmau 16:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a'm ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.

6. Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.

7. Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghorodd: fy arennau hefyd a'm dysgant y nos.

8. Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni'm hysgogir.

Y Salmau 16