1. Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
2. Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon:
3. Heb absennu â'i dafod, heb wneuthur drwg i'w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog.