Y Salmau 149:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd, a'i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.

2. Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.

3. Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.

4. Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais รข iachawdwriaeth.

5. Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.

Y Salmau 149