Y Salmau 149:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd, a'i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.

2. Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.

3. Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.

Y Salmau 149