Y Salmau 148:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.

2. Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.

3. Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.

4. Molwch ef, nef y nefoedd; a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.

Y Salmau 148