Y Salmau 145:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.

7. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a'th gyfiawnder a ddatganant.

8. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.

9. Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

10. Dy holl weithredoedd a'th glodforant, O Arglwydd; a'th saint a'th fendithiant.

Y Salmau 145