Y Salmau 144:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?

4. Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.

5. Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd รข'r mynyddoedd, a mygant.

6. Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.

7. Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8. Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.

Y Salmau 144