Y Salmau 140:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.

11. Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i'w ddistryw.

12. Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.

13. Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

Y Salmau 140