8. Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
9. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
10. Yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw.
11. Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a'm cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.
12. Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
13. Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
14. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
15. Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.