Y Salmau 139:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer.

21. Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?

22. A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.

23. Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;

24. A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.

Y Salmau 139