Y Salmau 139:16-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.

17. Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!

18. Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

19. Yn ddiau, O Dduw, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:

20. Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer.

21. Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?

22. A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.

23. Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;

24. A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.

Y Salmau 139