Y Salmau 137:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.

2. Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau.

3. Canys yno y gofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân; a'r rhai a'n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.

4. Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?

5. Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.

Y Salmau 137