1. Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.
2. Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau.
3. Canys yno y gofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân; a'r rhai a'n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
4. Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?