Y Salmau 135:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.

9. Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.

10. Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

11. Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

Y Salmau 135