5. Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
6. Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
7. Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o'i drysorau.
8. Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.
9. Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.
10. Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
11. Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan: