Y Salmau 135:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

15. Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.

16. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.

18. Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

Y Salmau 135